SL(6)352 – Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023

Cefndir a diben

Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Deddf 2014) yn rhoi swyddogaethau i Gyngor y Gweithlu Addysg (y Cyngor) mewn perthynas â phersonau y mae'n ofynnol iddynt gofrestru gyda'r Cyngor. Mae’r categorïau o bersonau cofrestredig wedi’u nodi yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014.

Mae Rhan 6 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Tabl 1 i ychwanegu’r categorïau a ganlyn o bersonau cofrestredig:

§  athro neu athrawes ysgol annibynnol;

§  gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol;

§  athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol;

§  gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.

Mae Rhan 2 o'r Gorchymyn hwn yn darparu na chaniateir i wasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol gael eu darparu mewn neu ar ran ysgolion annibynnol ond gan bersonau sydd wedi eu cofrestru â’r Cyngor yn y categori athro neu athrawes ysgol annibynnol.  Mae’r Rhan hon hefyd yn darparu mai dim ond personau sydd wedi eu cofrestru yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol a gaiff gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol mewn neu ar ran ysgol annibynnol. Fodd bynnag, nid yw’r gofynion i gofrestru a nodir yn y Rhan hon yn gymwys i bersonau sy’n darparu’r gwasanaethau neu’n cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau fel gwirfoddolwyr. Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas ag athrawon sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol a gweithwyr cymorth i ddysgwyr.

Mae Rhan 4 yn darparu bod person yn gymwys i gofrestru dros dro fel gweithiwr ieuenctid os yw’n gweithio tuag at ennill cymhwyster gweithiwr ieuenctid. Hefyd, mae person yn gymwys i gofrestru dros dro fel gweithiwr cymorth ieuenctid os yw’n gweithio tuag at ennill cymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid.

Mae Rhan 4 hefyd yn gosod dyletswyddau ar y Cyngor i lunio a chynnal rhestr o gymwysterau gweithwyr ieuenctid a chymwysterau gweithwyr cymorth ieuenctid. Rhaid i’r Cyngor hysbysu Gweinidogion Cymru, yn flynyddol, am unrhyw ddiwygiadau y dylid eu gwneud i’r rhestr o gymwysterau gweithwyr ieuenctid a’r rhestr o gymwysterau gweithwyr cymorth ieuenctid fel y’u nodir yn Atodlenni 1 a 2 i Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seliedig ar Waith) 2016 (Gorchymyn 2016).

Mae Rhan 5 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 (Rheoliadau 2015) mewn perthynas ag athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu. Mae’r diffiniad o “gwaith penodedig” yn rheoliad 17 o Reoliadau 2015 wedi ei ddiwygio er mwyn gwneud yn siŵr bod pob athro sy’n bennaeth neu sydd â rôl arwain uwch arall yn cael ei gwmpasu yn y categori athro neu athrawes ysgol. Mae’r diwygiadau hefyd yn symleiddio’r gofynion mewn perthynas â gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion ac yn ei gwneud yn glir nad oes rhaid i athro neu athrawes ysgol gofrestru yn y categori gweithiwr cymorth dysgu hefyd oni bai bod y person hwnnw wedi’i gyflogi fel gweithiwr cymorth i ddysgwyr mewn ysgol yng Nghymru neu’n ymwneud fel arall â’r rôl. Mae’r diwygiadau hefyd yn diwygio’r gofynion mewn perthynas â gweithwyr cymorth dysgu mewn addysg bellach i’w gwneud yn glir nad oes rhaid i athro neu athrawes addysg bellach gofrestru yn y categori gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach hefyd oni bai bod y person hwnnw wedi’i gyflogi fel gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad addysg bellach yng Nghymru.

Mae Rhan 7 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017 er mwyn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swm y ffi gofrestru sy’n daladwy gan y categorïau cofrestru newydd.

Gweithdrefn

Cadarnhaol Drafft

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Gorchymyn gerbron y Senedd. Ni all Gweinidogion Cymru wneud y Gorchymyn oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Gorchymyn drafft.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

1. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae Rhan 6 o’r Gorchymyn yn diwygio Atodlen 2 i Ddeddf 2014 drwy ychwanegu pedwar categori newydd o bersonau cofrestredig:

§  athro neu athrawes ysgol annibynnol;

§  gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol;

§  athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol;

§  gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn ymdrin â dehongli'r Gorchymyn. Mae erthygl 2 yn cyfeirio at ystyr “athro neu athrawes ysgol annibynnol” ac “athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014. Fodd bynnag, nid yw’n cyfeirio at ystyr “gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol” neu “gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014.

Nid yw’n glir pam mae dau o’r categorïau newydd wedi’u cynnwys yn erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn tra nad yw’r ddau gategori newydd arall wedi’u cynnwys.

2. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae Atodlen 1 i Orchymyn 2016 yn nodi rhestr o gymwysterau gweithwyr ieuenctid cymeradwy (h.y. cymwysterau sydd wedi’u cymeradwyo at ddibenion cofrestru fel gweithiwr ieuenctid).

Mae'r Gorchymyn hwn yn diweddaru'r rhestr; fodd bynnag, mae’r Gorchymyn hwn yn cynnwys dau gymhwyster sydd eisoes ar y rhestr, sef:

§  gradd israddedig mewn datblygu ieuenctid a chymunedol a ddyfernir gan Bradford College;

§  gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol a ddyfernir gan University of Bedfordshire.

Nid yw’n glir pam mae’r cymwysterau hyn wedi’u cynnwys yn y Gorchymyn hwn.

Rydym hefyd yn nodi’r dull anghyson a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn i ddiweddaru’r rhestr. Er enghraifft, mae dau gorff dyfarnu newydd (University of Bolton a University of Wolverhampton) wedi'u cynnwys mewn perthynas â'r radd israddedig mewn datblygu cymunedol a gwaith ieuenctid. Fodd bynnag, defnyddiwyd gwahanol ddulliau o gynnwys y cyrff dyfarnu hynny, sy’n golygu y bydd y rhestr yng Ngorchymyn 2016 bellach yn edrych fel hyn (testun coch yn dangos y testun a fewnosodir gan y Gorchymyn hwn):

Cymhwyster mewn perthynas [â] Lloegr

Corff dyfarnu

Gradd israddedig mewn datblygu cymunedol a gwaith ieuenctid

Ruskin College, Oxford

University of Wolverhampton

Gradd israddedig mewn datblygu cymunedol a gwaith ieuenctid

University of Bolton

 

Efallai y byddai wedi bod yn gliriach pe bai’r cofnod wedi’i ddiweddaru ar gyfer y cymhwyster hwn yn edrych fel hyn:

Cymhwyster mewn perthynas [â] Lloegr

Corff dyfarnu

Gradd israddedig mewn datblygu cymunedol a gwaith ieuenctid

Ruskin College, Oxford

University of Bolton

University of Wolverhampton

 

 

Rhinweddau: craffu

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Teitl y Gorchymyn hwn yw “Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023”. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod y Gorchymyn hwn yn gwneud mwy na dim ond creu categorïau ychwanegol o bersonau y mae'n ofynnol iddynt gofrestru gyda'r Cyngor. Er enghraifft:

-      Mae Rhan 4 o’r Gorchymyn hwn yn ymdrin â gofynion cymwysterau mewn perthynas â gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid. Mae “gweithiwr ieuenctid” a “gweithiwr cymorth ieuenctid” eisoes yn bodoli fel categorïau cofrestru; nid categorïau ychwanegol yw’r rhain.

-      Mae Rhan 5 o'r Gorchymyn hwn yn diwygio gofynion cofrestru o fewn y categori sydd eisoes yn bodoli, sef “athro neu athrawes ysgol”; nid yw Rhan 5 yn creu categori cofrestru ychwanegol.

Felly, tybed a yw teitl y Gorchymyn hwn yn adlewyrchu’n ddigonol yr hyn y mae’r Gorchymyn hwn yn ei wneud.

4. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae erthygl 11 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r disgrifiad o “gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol” yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014. Mae erthygl 11 yn diwygio'r disgrifiad fel bod y cyfeiriad presennol at weithiwr cymorth dysgu mewn ysgol yn 'darparu' gwasanaethau yn cael ei newid i gyfeiriad at weithiwr cymorth dysgu mewn ysgol yn 'cefnogi' y gwaith o ddarparu gwasanaethau.

Mae’r newid hwnnw, yn ôl y disgwyl, hefyd yn cael ei adlewyrchu yn y diwygiadau a wnaed i Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015.

Fodd bynnag, nodwn nad yw’r un newid wedi’i wneud i’r disgrifiadau o “gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach” a “gweithiwr cymorth ieuenctid” yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014 – mae’r ddau ddisgrifiad hyn yn parhau i gyfeirio at weithwyr cymorth yn ‘darparu’ gwasanaethau.

O ystyried nad yw’r Memorandwm Esboniadol yn rhoi unrhyw esboniad o’r newid a wnaed mewn perthynas â “gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol”, nid yw’n glir a ddylid gwneud yr un newid o ran y disgrifiadau o “gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach” a “gweithiwr cymorth ieuenctid”.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i bob un o’r pwyntiau adrodd.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

3 Mai 2023